'Rwy'n ofni f'nerth yn ddim
'Rwy'n ofni'm nerth yn ddim

1,2,3,(4);  1,2,6,7;  1,2,7,8;  1,3,4;  1,5,6,7,8.
'Rwy'n ofni'm nerth yn ddim,
  Pan āf i rym y don,
Mae terfysg yma cyn ei ddod,
  A syndod tan fy mron;
Mae ofnau o bob rhyw,
  Oll fel y diluw 'nghyd,
Yn bygwth i fy nhorri i lawr,
  Pan ddel eu hawr ryw bryd.

A minnau sydd am ffoi,
  Neu ynte droi yn ol,
Yn methu credu
    y saif i'r lan
  Un trllan gwan a ffol;
Ac etto 'r wyf o hyd
  Am symud peth ymlaen,
Nid fi yw'r cyntaf, eiddil ŵr,
  Orchfygodd ddwfr a thân.

'Rwyf yn terfynu 'nghred,
  'N ol pwyso oll ynghyd,
Mai cyfnewidiol ydyw dyn,
  Ond Duw sy'r un o hyd;
Ar ei ffyddlondeb Ef,
  Sy'n noddfa gref i'r gwan,
Mi gredaf do'i 'mhen gronyn bach,
  O'r tonnau'n iach i'r lan.

Cyfiawnder marwol glwyf,
  A haeddiant dwyfol loes,
Y pris, y gwerth,
    a'r aberth drud,
  A dalwyd ar y groes,
A gliria 'meiau'n llwyr,
  A'm gylch yn hyfryd lân,
Ac nid oes arall tan y nef
  A'm nertha i fyn'd ymlaen.

Mawr iawn yw nerth y nef,
  Mae'i arfaeth ef yn dân,
Yn llosgi y'mhob bryn a bro,
  Bob rhwystrau fo o'i bla'n;
Mae gallu'r nef yn fwy,
  Na'u dyfais hwy i gyd,
Fe lysg efengyl nef a'i sain,
  Fyrddyinau o'r rhai'n ynghyd.

Mae'r llwybr heddyw'n rhydd,
  Ein Tywysog sydd y'mlaen,
Yn rhwygo yr holl donnau llym,
  A diffodd grym y tan:
Bydd canu braf am hyn,
  Yn Salem cyn bo hir,
Pan ddelo'r ddaear fawr a'r nef,
  I seinio'r anthem bur.

Mae yr Iorddonen fawr,
  Yn dal yn awr ei dŵr,
Ac Israel Duw trwy ganol hon,
  Yn myn'd yn llon bob gwr:
Mae'n sefyll ynddi'r Arch,
  Yn fawr ei pharch a'i bri,
Ac yno bydd ein ffyddlon ffrind,
  Nes trw'odd fyn'd a ni.

Ni chaiff y dyfroedd maith
  Ddim rhwystro ein taith ymlaen;
Fe grona'r dw'r,
    fe hyllt bob bryn,
  Fe ddiffydd rym y tân;
'Does bobl a fedd fath fraint
  A'r saint o dan y nef,
Sy'n cael eu dwyn trwy lif a thonn,
   Yn ffyddlon atto ef.
ofni'm nerth :: ofni f'nerth
āf i :: elwy' i

William Williams 1717-91

Tonau [MBD 6686D]:
Eden (John Roberts 1822-77)
Llanllyfni (John Jones 1796-1857)
Olney (<1835)
Pererin (alaw Gymreig)
St Barnabas (J H Schein 1568-1630)
Vermont (<1811)
Wigan (<1829)

gwelir:
  Cyfiawnder marwol glwy
  Mi gana' am waed yr Oen
  Mi welaf fyrdd dan sel
  Ni chaiff y dyfroedd maith
  'Rwy(f) yn terfynu 'nghred

I fear my strength as nothing,
  When I go into the strength of the wave,
The tumult is here before it comes,
  And astonishment under my breast;
There are fears of every kind,
  All like the deluge together,
Threatening to break me down,
  When their hour comes some time.

As for me I would flee,
  Or then turn back,
Failing to believe
    he will stand on the shore,
  One weak and foolish wretch;
And yet I would still
  Move a little forward,
I am not the first, weak man,
  Who overcame water and fire.

I am concluding belief,
  After weighing all together,
That changeable is man,
  But God is still the same;
On His faithfulness,
  Which is a refuge to the weak,
I believe I shall come after a little while,
  From the waves, safe to the shore.

The righteousness of a mortal wound,
  And the merit of divine anguish,
The price, the worth,
    and the costly sacrifice,
  Which was paid on the cross,
Which clears my faults completely,
  And my circle delightfully pure,
And there is no other under heaven
  Who strengthens me to go forwards.

Very great is heaven's strength,
  Its purpose is fire,
Burning in every hill and vale,
  All frustrations that be before it;
Heaven is more mighty,
  Than all their scheme,
The gospel of heaven and its sound will burn
  Myriads of those together.

The path today is free
  Our Prince is before,
Breaking all the sharp waves,
   And extinguishing the force of the fire:
 There will be a nice song about this,
   In Salem before long,
 When the great earth and heaven come,
   To sound the pure anthem.

The great Jordan is,
  Holding now its water,
And Israel of God through the midst of this,
  Going cheerfully every man:
Standing within her is the Ark,
  Of great reverence and esteem,
And there will be our faithful friend,
  Until we go through.

The vast waters will not be able
  At all to obstruct our journey forward;
The water will dam up,
    every hill will split,
  The force of the fire will extinguish;
No people will possess such a privilege
  With the saints under heaven,
Who will be led through flood and wave,
  Faithfully to him.
::
::

tr. 2009 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~